TB Buchol: Joyce yn galw am waharddiad ar hela â chwn

Mae Aelod y Cynulliad Joyce Watson wedi galw am waharddiad dros dro ar hela â chwn gan ddisgwyl yn gyntaf asesiad risgiau parthed lledaenu TB buchol.
Dyma argymhelliad AC Llafur Canolbarth a Gorllewin Cymru a wnaed yn ystod trafodaeth y Senedd yr wythnos diwethaf ar benderfyniad Llywodraeth Gymru ar ddifa moch daear mewn ardal â phroblem TB.
O 1 Hydref ymlaen bydd Cymru’n cael ei rhannu mewn ardaloedd o risg isel, canolradd ac uchel, ar sail ardaloedd lle ceir llawer o achosion o TB.
Dywedodd Mrs Watson, sydd wedi beirniadu’n ddi-flewyn-ar-dafod cynigion blaenorol am ddidol a difa moch daear, nad oes sail wyddonol dros ddifa moch daear. Dywedodd nad oedd yn cefnogi’r cam a gofynnodd i’r gweinidog amaeth Leslie Griffiths i archwilio’r cysylltiadau rhwng TB buchol, slyri ac hela â chwn. Cytunodd Ms Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i archwilio. Dyma drawsgrifiad y cyfnewidiad:
Joyce Watson
“Mae’r ardal triniaeth ddwys—yr IAA—yn cwympo o fewn y rhanbarth yr wyf wedi ei gynrychioli ers 10 mlynedd erbyn hyn, felly rwyf i’n gwybod yn iawn cymaint o falltod yw TB buchol, ac mae’r clefyd wedi bod yn flinder cronig a niweidiol i lawer o ffermwyr am flynyddoedd lawer. Rwyf wedi fy nghalonogi, er hynny, fod nifer yr achosion o TB buchol yn yr IAA wedi gostwng 35 y cant. Mae hynny’n 12 y cant yn fwy na’r ffigur mewn ardaloedd cyfagos. Mae hynny’n awgrymu i mi bod y mesurau sy’n cael eu gweithredu ar hyn o bryd, yn wir, yn cael effaith gadarnhaol iawn, ac rwy’n croesawu eich bod wedi penderfynu gweithredu’n wahanol i’r polisi di-drefn sydd ar mewn rhannau o Loegr. Mae gennyf i amheuon, fodd bynnag, ac rwy’n gobeithio y byddwch yn gallu tawelu fy meddwl o ran nifer o bwyntiau.
“Bydd aelodau yn y Siambr hon yn ymwybodol o’m safbwynt ar y mater hwn yn y gorffennol, ac rwyf wedi siarad a phleidleisio yn unol â’r dystiolaeth wyddonol. Daw’r unig dystiolaeth gredadwy sydd gennym o ran difa moch daear a’i effaith ar ledaeniad TB buchol o’r treialon difa moch daear a gynhaliwyd ar hap am 10 mlynedd gan Arglwydd Krebs. Daethpwyd i’r casgliad bod yn rhaid, er mwyn cael hyd yn oed gostyngiad bach mewn TB buchol, lladd 70 y cant o boblogaeth moch daear mewn ardal heb fod yn llai na 150 cilomedr sgwâr, a bod yn rhaid i hynny gael ei wneud mewn cyfnod byr o amser—dyna inni tua chwe wythnos bob blwyddyn. Ond mae hefyd yn mynd ymlaen i ddweud, os caiff gormod o foch daear eu lladd, fod yna risg uchel o’u difodiant yn lleol ac, yn wir, fe ddigwyddodd hynny mewn rhai ardaloedd o Weriniaeth Iwerddon. Mae hefyd yn mynd ymlaen i ddweud, os nad ydych chi’n lladd digon o foch daear, rydych mewn perygl o aflonyddu a gwasgaru, ac mae hynny’n lledaenu’r clefyd ymhellach ac yn ehangach, hyd yn oed. Felly, mae’n rhaid i mi ofyn cwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet: sut y mae’r camau arfaethedig i ddal a difa moch daear sydd wedi’u heintio, a gosod microsglodyn ynddyn nhw o bosibl, yn dal dŵr o’u cymharu â’r argymhellion hynny gan Krebs, a sut y gall hynny mewn gwirionedd wneud unrhyw wahaniaeth o gwbl? Rydych chi’n ymwybodol o fy safbwyntiau i ar ddifa moch daear, ac fe ddywedaf unwaith yn rhagor; nid fyddaf yn ei gefnogi.
“Rwyf hefyd yn awyddus i godi cwestiynau eraill am ledaeniad TB buchol mewn cysylltiad â slyri ar ffermydd. Rwy’n deall nad yw pori ar dir lle mae tail a slyri wedi e’i daenu yn cael ei argymell am ddau fis, a hynny oherwydd bod yr haint yn gallu aros mewn tail a slyri am hyd at chwe mis. A wnewch chi egluro felly a ydyw’n orfodol i storio’r holl dail a slyri am chwe mis cyn gwasgaru? A fyddech yn ystyried gorfodi’r moratoriwm ar bori am ddau fis fel yr argymhellir ar hyn o bryd?”
Leslie Griffiths
“Hoffwn ddiolch i Joyce Watson am ei chwestiynau ac rwy’n gwybod yn iawn beth yw ei barn hi am ddifa moch daear, lawn cymaint ag y mae hi’n gwybod beth yw f’un innau. Byddwch yn ymwybodol iawn mai ystyried y buchesi wedi’u heintio’n gronig yn unig a wna hyn. Mae’r cynlluniau hyn, mae’r cynlluniau gweithredu pwrpasol hyn, a gaiff eu llunio—a fydd, os caiff ei brofi bod yna, neu os oes tystiolaeth bod cysylltiad rhwng moch daear a gwartheg a allai fod yn cyfrannu at ledaenu’r clefyd, byddwn wedyn yn gwneud y gwaith trapio hwn. Gallai fod nad yw rhai ffermwyr yn dymuno trin y moch daear felly, a bydd y cynllun gweithredu pwrpasol yn cael ei gyflawni’n unig mewn ymgynghoriad â’r ffermwr a chyda’i filfeddyg preifat.
“Roeddech chi’n sôn am ficrosglodion. Rwy’n ymwybodol bod hynny wedi ei wneud mewn gwledydd eraill, mewn achos, os yw mochyn daear wedi ei ddal a’i brofi’n negyddol, rhoddir microsglodyn arno, felly, os bydd y clefyd wedyn i’w gael ar y fferm honno, er enghraifft, a byddwch yn mynd yn eich ôl, ac yn dal y mochyn daear sydd â’r microsglodyn arno, bydd hanes blaenorol y mochyn daear hwnnw, os mynnwch chi, yn hysbys.
“Roeddech chi’n trafod aflonyddu a gwasgaru. Mae’n rhaid i mi ddweud nad oes llawer o wybodaeth i’w chael am effaith aflonyddu a gwasgaru ar y clefyd ac rwy’n credu bod angen gwneud gwaith sylweddol ynglŷn â hynny. Rwy’n credu mai un maes yr ydym wedi elwa arno yw’r ‘ arolwg o foch daear marw’. Mae wedi rhoi inni dystiolaeth dda iawn o ran yr ardaloedd ledled Cymru, ac rwyf wedi dweud y bydd hynny’n parhau, yr arolwg hwnnw, wrth symud ymlaen.
“Rydych chi’n holi ynglŷn â slyri ac rydych yn dyfynnu’r rheoliadau ynglŷn â slyri ac a ellid ei gwneud hi’n orfodol, oherwydd, unwaith eto, mae hynny’n rhywbeth—wyddoch chi, y mae’n rhaid i’r ffermwyr gymryd camau o ran hynny. Maen nhw’n gwybod beth yw’r peryglon a pha mor hir y dylid ei storio, ac yn y blaen, er mwyn cael gwared ar y lefelau uchel o leithder, ond mae’n rhywbeth y gallwn yn sicr ei ystyried wrth symud ymlaen.
“Rydych chi’n gofyn am gŵn hela. Nawr, dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw brofion sydd wedi’u cynnal ar gŵn hela, ond byddwn i’n hapus iawn i ystyried hynny ac i ysgrifennu at yr Aelod a rhoi copi yn y Llyfrgell.”
GORFFEN
Ar gyfer Golygyddion:
Cyhoeddir trawsgrifiad y Cyfarfod Llawn yma.



Avatar photo
Author: Joyce Watson MS
We're the UK's #1 Website Design & Digital Marketing agency for Labour Party politicians and groups, trusted for 14+ years in delivering website, social media marketing and election strategies.
SUBSCRIBE FOR EMAIL UPDATES
Keep Updated
Subscribe to my email newsletter to get the latest news on Welsh Government investment and my campaigns in Mid & West Wales.
Subscribe
I agree to the Privacy Policy and to receive email updates.
SUBSCRIBE FOR EMAIL UPDATES
Keep Updated
Subscribe to my email newsletter to get the latest news on Welsh Government investment and my campaigns in Mid & West Wales.
Subsribe
I agree to the Privacy Policy and to receive email updates.
We use cookies to improve your overall site experience. This includes personalising content, analysing site usage, and to assist in our marketing efforts. By continuing to use our site, you accept our use of cookies and Privacy Policy.
Contact Details
Privacy Policy
Accept
We use cookies to improve your overall site experience. This includes personalising content, analysing site usage, and to assist in our marketing efforts. By continuing to use our site, you accept our use of cookies and Privacy Policy.
Accept